1911, District 16, No. 31, TUDOR, Rhydycarw


Taflen Gymreig

CYFRIFIAD LLOEGR A CHYMRU, 1911

Rhif y Daflen 31
(I’w lenwi gan y Cyfrifydd ar ol eu casglu.)

Cyn ysgrifennu ar y Daflen hon gwelwch yn dda ddarllen yr Esiamplau a’r Cynfarwyddiadau a roddir ar y tu arall i’r papur, yn gystal a phenawdau’r Colofnau.

Cedwir cynnwys y Daflen yn gyfryinachol. Cymerir gofal manwl na ddatguddir dim hysbysrwydd ynglŷn a phersonau unigol. Nid yw’r cofnodion i’w defynddio i brofi oed, megis mewn cysylltiad a Pensiynau Henaint, nac i un pwrpas arall ond papratoi Ystadegol.

1. ENW A CHYFENW
pob Person, pa un bynnag ai Un o’r Teulu, ai Ymwelydd, Byrddiwr ai Gwasanaethydd,
(1) a dreuliodd nos Sul, yr 2il o Ebrill, 1911, yn yr annedd hon, ac a oedd yn fyw hanner nos, neu
(2) a gyrhaeddodd yr annedd hon fore Llun, y 3ydd o Ebrill, heb ei gyfrif yn unman arall.
Nid oes neb arall i’w roi i mewn
(Am y drefn i osod yr enwau gweler Enghreifftiau ar gefn y Daflen.)

2. PERTHYNAS i’r Penteulu
Nodwch pa un ai “Penteulu,” ai “Gwraig,” “Mab,” “Merch,” neu Berthynas arall, ai “Ymwelydd,” “Byrddiwr,” ai “Gwas” nen “Forwyn.”

OED (y Pen Blwydd diweddaf) a RHYW.
Am Fabanod dan fwydd, rhowch yr oed yn fisoedd, megis “dan yn mis,” “un mis,” etc.
3. Oed Gwrywiaid
4. Oed Benywiaid

MANYLION ynghylch PRIODAS

5. Ysgrifennwch “Sengl,” “Priod,” neu “Gweddw,” gyferbyn ag enw pob un 15 mlwydd oed a throsodd.

Am bob Gwraig Briod a enwir yn y Daflen hon, nodwch nifer:-

6. Y bynyddoedd cyflawn y mae’r Briodas bresennol wedi dal. Os dan un flwyddyn ysgrifennwch “danun.”

Y plant a anwyd yn fyw o’r Briodas bresennol. (Os na bydd plant wedi eu geni’n fyw, gsfrifennwch “0” yn y Golofn 7.)
7. Yr Holl Blant a Anwyd yn Fyw.
8. Y Plant sy’n fyw.
9. Y Plant a fu farw.

GALWEDIGAETH neu WAITH
Personau deng mlwydd oed a throsodd

10. Gwaith Personol.
Dylai’r atebiad ddangos y gangen arbennig o’r Alwedigaeth y Grefft, y Llaw-weithyddiaeth, etc.
Os ar wait mewn rhyw Grefft neu Lawweithyddiaeth dylid nodi’n glir y math neilltuel o waith a wneir, a’r Nwydd neu’r Defnydd a weithir, neu yr ymwneir ag ef.
(Gweler y Cyfarwyddiadau, l hyd 8, a’r Esiamplau ar gefn y Daflen.)

11. Diwydiant neu Wasanaeth y mae’r gweithiwr yn gysylltiedig ag ef.
Dylid yn gyffredin ateb y cwestiwn hwn drwy nodi’r busness a gerir ymlaen gan y meister. Os dangosir hyn yn amlwg yn y Golofn 10, ni raid ateb y cwestiwn yn y fan hon.
Nid oes eisiau cofnod ynghylch Gwasanaethyddion Teuluaidd mewn gwasanaeth preifat.
Os ar waith dan gorfforaeth gyhoeddus (Llwodraeth, Dinesig, etc.) nodwch ps gorfforaeth.
(Gweler Cyfawyddyd 9 a’r Esiamplanu ar gefn y Daflen.)

12. Pa un ai Meistr, Gweithiwr, ai’n Gweithio Drosto’i Hun.
Ysgrifennwch gyferbyn ag enw pob un ar waith mewn rhy w Gwefftneu Ddiwydiant
(1) “Meistr” (yn rhoiar waith rai heblaw gwasanaethyddion teuluaidd), neu
(2) “Gweithiwr” neu “Gweithwraig” (ar waith dros feistr), neu
(3) “Drosto’i hun” (nad yw’n rhoi gwaith i eraill nac yn gweithio feistr crefftwrol.)

13. Ai’n Gweithio Gartref.
Ysgrifennwch y gair “Gartref” gyferbyn ag enw pob un sy’n dilyn Crefft neu Ddiwydiant gartref.

14. Y LLE Y GANWYD
pob un.

(1) Os wedi ei eni yn y Deyrnas Gyfunol, ysgrifennwch enw’r Sir, a’r Dref neu’r Plwyf.
(2) Os wedi ei eni mewn rhyw ran arall o’r Ymherodraeth Brydeinig, ysgrifennwch enw’r Ddibynwlad, y Drefedigaeth, etc., ac enw’r Diriogaeth neu’r Dalaith.
(3) Os wedi ei eni mewn Gwlad Estronnol, ysgrifennwch enw’r wlad.
(4) Os wedi ei eni ar y môr ysgrifennwch “Ar y môr.”
NODIAD.- Ynglŷn a rhai wedi eu geni yn rhywle heblaw Lloegr a Chymru, nodwch pa un ai “Trigo” yn y wlad hon ai “Ymweled” a hi y maent.

15. CENEDLAETHOLDEB
pob un a anwyd mewn Gwlad Estronol.
Nodwch pa un ai:
(1) “Deliad Prydeinig o rieni.”
(2) “Deiliad Prydeinig Brodoreinig Brodoredig,” gan roi blwyddyn ei ymfrodoriaeth. Neu
(3) Os o genedlaetholdeb estronol, nodwch pa un ai “Ffrengig,” “Germanaidd,” “Rwsiaidd,” etc.

16. ANHWYLDER.
Os yw rhyw un a enwir yn y enwir yn y Daflen hon yn:
(1) “Hollol Fyddar” neu’n “Fud a Byddar,”
(2) “Hollol Ddall”
(3) “Lloerig,”
(4) “Ynfyd” neu “Wan ei synnwyr,” nodwch yr anhwylder gyferbyn ag enw’r person hwnnw, a’i oed panddaeth y diffyd arno.

17. YR IAITH A LEFERIR
Os heb allu siarad ond Saesneg, ysgrifennwch “Saesneg.” Os heb allu siarad ond Cymraeg, ysgrifennwch “Cymraeg.” Os yn gallu siarad Saesneg a Chymraeg, ysgrifennwch “Y ddwy.” Nid oes dim i’w roi yn y golofn hon am blant dan dair blwydd oed.

1234567891011121314151617
1Thomas TUDORPenteulu46PriodGrazierMeistoTrefaldwyn, MachynllethY ddwy
2Hannah TUDORGwraig43Priod18660Trefaldwyn, TrefeglwysY ddwy
3David TUDORMab11YsgolTrefaldwyn, TrefeglwysY ddwy
4Mary Elizabeth TUDORMerch8YsgolTrefaldwyn, TrefeglwysY ddwy
5Thomas TUDORMab4Trefaldwyn, TrefeglwysCymraeg
6Jane TANNERMorwyn19SenglMorwyn Gyffredin (Deulwaidd)Trefaldwyn, TrefeglwysY ddwy
7Walter OLIVERGwas28SenglLlafurwr AmaethyddolGweithiwrYorkshire (Parish N.K.)Saesneg

(I’w lenwi gan, neu ar ran, y Penteulu, neu arall a fo’n preswylio, neu’n gwarchod yr annedd hon.)
Ysgrifennwch isod Nifer yr Ystafelloedd yn yr Annedd hon (y Ty, y Daliad, neu’r Rhandy). Cyfrifwch y gegin yn ystafell ond peidiwch a chyfrif scullery, landing, lobby, closet, na bathroom; nac ystordy, swyddfa, na siop.
Un-ar-ddeg (11)

Yr wyf yn datgan fod y Daflen hon wedi ei llenwi’n gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred.
Arwydd Thomas TUDOR
Cyfeiriad Post Rhydycarw, Trefeglwys, Caersws

(I’w lenwi gan y Cyfrifydd.)
Yr wyf yn sicrhau
(1.) Fod pob oed yn y Daflen hon wedi ei roi yn golofa briodol yn ol y rhyw.
(2.) Fy mod wedi cyfrif y gwrywiaid a’r benywiaid yn Colofnau 3 a 4 ar wahan, ac wedi cymharu en swm a chyfanrif y personau.
(3.) Ar al gwneuthur yr ymchwiliadau angenrheirdiol, fy mod wedi cwblhan pob cofnod a ymddangosai’n ddiflygiol yn y Danen hon, ac wedi cywiro rhai a ymddangosai’n anghywir.

Cynlythrennau’r Cyfrifydd
D.T.

Cyfanrif
Gwrywiaid 4
Benywiaid 3
Personau 7

__________________________________________

CYFRIFIAD LLOEGR A CHYMRU, 1911

[Taflen Gymreig.]

TAFLEN.
Wedi ei pharatoi yn ol Deddf Cyfrifiad (Prydain Fawr), 1910.

Y lle hwn i’w lenwi gan y Cyfrifydd.

Rhif y Dosbarth Cofrestrol 616
Rhif yr Is-Ddosbarth Cofrestrol 1
Rhif y Dosbarth Cyfriyddol 16

Enw’r Penteulu neu Breswylydd ar Wahan.
Mr. Thos. TUDOR

Cyfeiriad Post
Rhydycarw
Trefeglwys
Caersws

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *